Monday, July 6, 2009

Toriadau Mawr i'r Gymraeg yn LLoegr


Mae'r Learning and Skills Council, sy'n ariannu cyrsiau i oedolion, wedi torri'r cyrsiau Cymraeg yn Lewisham ac yn Richmond - ar un adeg roedd pedwar dosbarth rhyngddynt. Mae hyn yn ganran sylweddol o'r darpariaeth yn Llundain. Dyw'r LSC erioed wedi ariannu dosbarthiadau Canolfan y Cymry. Felly beth yw eu polisi ar gyfer y Gymraeg - dim polisi o gwbl. Oes angen dosbarthiadau Cymraeg yn Lloegr?
Oes. Mae degau o filoedd yn symud i mewn ac o Gymru bob blwyddyn o Loegr. I rieni mae rhaid iddyn nhw ymdopi ag ysgolion dwyieithog, gwaith cartref cymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith. I athrawon mae rhaid dysgu rhywfaint o Gymraeg i'r plant bob dydd yn yr ysgol gynradd. Sgil 'defnyddiol' yw'r gymraeg i lawer o swyddi cyhoeddus ac i fusnesau bach. Roedd un fyfywraig yn dysgu oherwydd heb y Gymraeg, ar lafar o leiaf, doedd na ddim dyfodol i'w busnes fel plymer yng Nghymru. I un arall roedden nhw'n cadw tafarn yn y Gogledd a'r Gymraeg yn bwysig yn eu cynllun busnes. Felly mae angen strategaeth i warchod yr ychydig o Gymraeg sydd ar ol, ac i wella'r ariannu sy'n dod o flwyddyn i flwyddyn.

No comments: