Tuesday, July 21, 2009

Hiliaeth yn erbyn y Cymry yn Lloegr


Dyfyniad o erthygl y BBC y y Gymraeg yw hyn.
dyma'r ddolen lawn - rhyfedd!
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8120000/newsid_8121400/8121419.stm
"Roddem yn trafod prisiau pan yn sydyn dywedodd y ddynes na fyddai'n caniatáu i Gymraeg gael ei siarad yn y siop - gan ddweud bod yn rhaid i ni adael.
"Ges i gymaint o sioc fel i mi adael, yna es i nôl mewn a gofyn am ei henw a'i chyfeiriad am fy mod am achwyn.
"Gwrthododd eu rhoi.
"Yna aeth fy chwaer yn ôl mewn a gofyn yn gwrtais pe bai ni o unrhyw dras arall a fyddai'n iawn i ni siarad ein hiaith ein hunain.

Dywed Sue Pratley ei bod wedi gofyn i'r ddwy chwaer siarad Saeneg
"Dywedodd 'bydda' ond da chi ddim, da chi'n Gymry", meddai.
Dywedodd Mrs Dean fod ei chwaer yn byw gyda'i gŵr yng Nghaerfaddon.
Maen nhw'n credu ei yn bosib fod Ms Pratley wedi sylwi ar eu hacenion Cymreig wrth iddyn nhw siarad gyda'r gŵr yn Saesneg.
Dywedodd ei bod wedi cysylltu â'r Comisiwn Cydraddoldeb ynglŷn â'r mater.

Cymry y Canolbarth (Lloegr)

Cymry y Canolbarth (Lloegr)

http://cymryycanolbarth.blogspot.com/

Os oes cysylltiad ag unrhywun yng Nhanolbarth LLoegr rhowch hyn ar eich rhestr blogiau i ddilyn, cofiwch rhoi fy mlog i ar safleodd am cymry yn Lloegr hefyd. Diolch.
Petroc

Monday, July 6, 2009

Toriadau Mawr i'r Gymraeg yn LLoegr


Mae'r Learning and Skills Council, sy'n ariannu cyrsiau i oedolion, wedi torri'r cyrsiau Cymraeg yn Lewisham ac yn Richmond - ar un adeg roedd pedwar dosbarth rhyngddynt. Mae hyn yn ganran sylweddol o'r darpariaeth yn Llundain. Dyw'r LSC erioed wedi ariannu dosbarthiadau Canolfan y Cymry. Felly beth yw eu polisi ar gyfer y Gymraeg - dim polisi o gwbl. Oes angen dosbarthiadau Cymraeg yn Lloegr?
Oes. Mae degau o filoedd yn symud i mewn ac o Gymru bob blwyddyn o Loegr. I rieni mae rhaid iddyn nhw ymdopi ag ysgolion dwyieithog, gwaith cartref cymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith. I athrawon mae rhaid dysgu rhywfaint o Gymraeg i'r plant bob dydd yn yr ysgol gynradd. Sgil 'defnyddiol' yw'r gymraeg i lawer o swyddi cyhoeddus ac i fusnesau bach. Roedd un fyfywraig yn dysgu oherwydd heb y Gymraeg, ar lafar o leiaf, doedd na ddim dyfodol i'w busnes fel plymer yng Nghymru. I un arall roedden nhw'n cadw tafarn yn y Gogledd a'r Gymraeg yn bwysig yn eu cynllun busnes. Felly mae angen strategaeth i warchod yr ychydig o Gymraeg sydd ar ol, ac i wella'r ariannu sy'n dod o flwyddyn i flwyddyn.