Sunday, January 20, 2013

Cofiwch, does dim rhaid gwrando ar radio cymru i gael cerddoriaeth cymraeg - mae na ddeunydd am ddim ar soundcloud, yn cynnwys cowbois rhos botwnnog a bandiau tebyg. Edrychwch ar wefan Y Selar ac mi gwech chi weld ffigyrau anhygoel am faint sy wedi mynd at 'Celwydd' a bostwyd ar Soundcloud 16 Ionawr, ac o few tri diwrnod mae dros 17,500 o bobl wedi gwrando ar y gân. Ond y trac wedyn BishBashBosh sy wedi fy mhlesio mwya. Neu ewch i youtube i glywed Gweriniaeth y Cymru gan Bromas. Daw dydd y bydd y BBeG Bropogandes Brydeinig Gelwyddog yn dysgu bod na ddiwylliant byw yng Nghymru. Darllener: http://www.y-selar.com/news/record-las-yn-feiral-/ https://soundcloud.com/recordiaulliwgar/ifan-dafydd-celwydd http://www.golwg360.com/celfyddydau/roc-a-phop/97630-can-gymraeg-yn-mynd-yn-feiral

Mae gen i "Trydar Sain' ar Blaving hefyd dan yr enw Petroc2 http://en.blaving.com/petroc2

Saturday, January 12, 2013

Cymraeg yn Llundain 2013 - Dal Ati


Mae dosbarthiadau cymraeg o hyd yn LLundain yn Y City Lit pnawn Gwener lefel 1, 2 a 3, a nos Fawrth 1 a 2 a nos fercher lefel 5. Ac gyda'r nos yng Nghanolfan Cymru LLundain lefel 1, 2, 3 a 3.5 Mae grwp siarad anffurfiol yn cwrdd (Moon Under Water) Weatherspoons ar Whitehall bob Mercher 12.00 tan 13.00 am goffi, tecstio Petroc 078 1283 6460 Mae grwp darllen nofelau cymraeg yn y Ganolfan. City lit welsh classes and London Welsh Classes still running, new students welcome levels 1, 2, 3, 3.5 and 5 1 2 and 3 in both afternoon or evening. Mae Corau yn y Ganolfan ac yn y Clwb Rygbi Cymry LLundain. Mae Côr ac Aelwyd yr Urdd a hanner dwsin o gapeli. Does dim papur bro eto - ond mi ddaw. Petroc