Tuesday, April 29, 2014

@CYIGLlundain


Ewch i Trydar a chwilio am Cymdeithas yr Iaith Llundain. Os oes ffrindiau cymraeg yn Llundain anfon y link ymlaen atyn nhw. @CYIGLlundain

S4C yn cael ei llyncu gan yr EBC - gwasanaethau saesneg i ddod

Cwestiwn - ebrill 2014 O'n i'n ceisio edrych ar fanylion fy nhrwydded deledu yn y Gmraeg ond mae'r dudalen yn uniaith Saesneg. Oes na dudalen cymraeg ar y gweill? https://www.tvlicensing.co.uk/cs/update/your-licence/index.app Your results for "O'n i'n ceisio edrych ar fanylion fy nhrwydded deledu yn y Gmraeg ond mae'r dudalen yn uniaith Saesneg. Oes na dudalen cymraeg ar y gweill?" Cymraeg I gael rhagor o wybodaeth ac i roi’r cynllun hwn ar waith, ffoniwch 0300 555 0286 (sylwch mai llinell ffôn Saesneg yn unig yw hon ond gallwch ofyn am gael siarad â rhywun yn eich iaith eich hun).

Sunday, January 20, 2013

Cofiwch, does dim rhaid gwrando ar radio cymru i gael cerddoriaeth cymraeg - mae na ddeunydd am ddim ar soundcloud, yn cynnwys cowbois rhos botwnnog a bandiau tebyg. Edrychwch ar wefan Y Selar ac mi gwech chi weld ffigyrau anhygoel am faint sy wedi mynd at 'Celwydd' a bostwyd ar Soundcloud 16 Ionawr, ac o few tri diwrnod mae dros 17,500 o bobl wedi gwrando ar y gân. Ond y trac wedyn BishBashBosh sy wedi fy mhlesio mwya. Neu ewch i youtube i glywed Gweriniaeth y Cymru gan Bromas. Daw dydd y bydd y BBeG Bropogandes Brydeinig Gelwyddog yn dysgu bod na ddiwylliant byw yng Nghymru. Darllener: http://www.y-selar.com/news/record-las-yn-feiral-/ https://soundcloud.com/recordiaulliwgar/ifan-dafydd-celwydd http://www.golwg360.com/celfyddydau/roc-a-phop/97630-can-gymraeg-yn-mynd-yn-feiral

Mae gen i "Trydar Sain' ar Blaving hefyd dan yr enw Petroc2 http://en.blaving.com/petroc2

Saturday, January 12, 2013

Cymraeg yn Llundain 2013 - Dal Ati


Mae dosbarthiadau cymraeg o hyd yn LLundain yn Y City Lit pnawn Gwener lefel 1, 2 a 3, a nos Fawrth 1 a 2 a nos fercher lefel 5. Ac gyda'r nos yng Nghanolfan Cymru LLundain lefel 1, 2, 3 a 3.5 Mae grwp siarad anffurfiol yn cwrdd (Moon Under Water) Weatherspoons ar Whitehall bob Mercher 12.00 tan 13.00 am goffi, tecstio Petroc 078 1283 6460 Mae grwp darllen nofelau cymraeg yn y Ganolfan. City lit welsh classes and London Welsh Classes still running, new students welcome levels 1, 2, 3, 3.5 and 5 1 2 and 3 in both afternoon or evening. Mae Corau yn y Ganolfan ac yn y Clwb Rygbi Cymry LLundain. Mae Côr ac Aelwyd yr Urdd a hanner dwsin o gapeli. Does dim papur bro eto - ond mi ddaw. Petroc

Monday, December 12, 2011

Trwyddedau Teledu ym Mryste 2011 - unwaith eto.

Trwyddedau Teledu ym Mryste 2011 - unwaith eto.

Bob blwyddyn dwi'n gofyn i'r bobl Trwyddedau Teledu ym Mryste am adnewyddu fy nhrwydded ar-lein yn y Gymraeg. Eleni ces i'r un ateb- dim ar gael ond mi gewch chi ddefnyddio'r rhif ffôn arbennig - un rhan amser, oriau cyfyngedig. Diwedd y mis yw fy amser i adnewyddu, a finnau yn aros i ffwrdd efo teulu yn Wrecsam, neu teulu arall ac wrth gwrs does neb yno i ateb y ffôn, penwythnosau, gwylliau banc. Bob blwyddyn maen nhw'n ofyn i mi wneud y peth yn otomatig- hynny yw yn y Saesneg - drwy debyd uniongyrchol. Yr unig ateb sy gen i ydy- na. Dwi'n gwylio S4C yn gyson, yn fwy na sianelu Saesneg, a gwrando ar radio Cymru yn fwy na sianelu Radio Saesneg ac yn darllen BBC arlein yn y Gymraeg yn fwy na'r iaith fain. Ond Corff yw'r cwmni Trwyddedau Teledu ym Mryste, ac fel bob corff yn ddiliw a difywyd. Fel dan ni'n dweud- hir pob aros wrth porth y byddar.

#BLAVING blav.co/nhud7smnk =gwrando ar fy nghwyn ar Blaving


Annwyl Mr Seisyllt, Diolch am eich ebost diweddar.

Rwy'n flin i glywed eich bod yn anhapus gyda'r safon y gwasanaeth Cymraeg ar lein. Dyma'r linc am y tudalennau Cymraeg ar ein gwefan : http://www.tvlicensing.co.uk/languages/LANG1/. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw adborth positif neu negatif oddi wrth ein cwsmeriaid.

Yn anffodus, ar hyn o bryd nid yw'n bosib prynu trwydded teledu ar-lein yn y Gymraeg ond gallwch alw'r llinell Gymraeg rhwng 8:30yb-6:30yp dydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8:30yb-1:00yp dydd Sadwrn. Mi fydd unrhyw aelod o'r adran Gymraeg yn hapus i ddelio gyda'ch ymholiad. Rhif ffôn yr Adran Gymraeg Trwyddedu Teledu yw 0300 790 6042.

Ynglyn a'r wefan Gymraeg, fel Awdurdod Trwyddedu, mae?r BBC yn ymroddgar tuag at eu dyletswyddau i ddarparu gwasanaethau addas am ddaliwr trwyddedu teledu a'r cyhoedd cyffredinol. Mae?r BBC yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.Mae?r BBC hefyd yn arolygu defnydd ein cwsmeriaid o?r wefan Trwyddedu Teledu ac mae ffigurau diweddar yn cadarnhau nad oes galw ar hyn o bryd am wasanaeth cyflawn ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg.Fel asiant i?r BBC, rydyn yn gweithio?n agos i ystyried y gwasanaethau a ddarparwn ac ein polisïau a'n gweithdrefnau yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Os ydych am gymryd y mater hwn ymhellach, ysgrifennwch at: Carl Shimeild, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Trwyddedu Teledu, Bryste, BS98 1TL

Yr eiddoch yn gywir Gavin Richards Trwyddedu Teledu

Wednesday, September 14, 2011

New interactive resource to boost learning about Gaelic

New interactive resource to boost learning about Gaelic
Tuesday, 13 September 2011

A new online learning resource to increase general knowledge of Gaelic is launched today.

Welcomed by Dr Alasdair Allan MSP, Minister for Learning & Skills, The Open University’s Gaelic in modern Scotland resource will meet the growing demand from people interested in Gaelic’s place in the culture and heritage of Scotland and aims to encourage the learning of Gaelic.

Gaelic in modern Scotland is available in both English and Gaelic on the University's OpenLearn website www.open.ac.uk/openlearn/gaelic which provides free access for learners anywhere in the world.

Tuesday, September 6, 2011

Menter Iaith Lloegr

Take a look at the facebook group Menter Iaith Lloegr. It is there to promote Welsh classes and activities in England. Its enthusiastic and ambitious - well done Johnathon Simcox. The Welsh Government significantly neglect us in England, thats 100,000+ Welsh speakers and several million people of Welsh decent. Funding for Welsh to Adults in England is ZERO, public grant to the London Welsh Centre = Zero. With migration between Wales and England at roughly 50,000 per year in both directions ie half a million per decade - the role of England in the future of the Welsh language is obvious. Yet Welsh is not taught in Englands schools. Peteroc ap Seisyllt