Thursday, October 7, 2010

Mesur Iaith Dof a didanedd

Ymateb i erthygl y bbc mesur iaith - erthygl 6/10/10

Digon glir Emyr, ond y peth sylfaenol yw beth sy'n digwydd yn lleol ar lawr gwlad. Dadl Saunders yn 1961 (hanner ganrif yn ôl) oedd i sefydlu'r Gymraeg yn iaith WEINYDDOL yn yr ardaloedd cymraeg. Dim ond Gwynedd sy'n gwneud hyn, ac hwnnw yn rhannol. Ac erbyn heddiw mae'r ardaloedd "Cymraeg" wedi crebachu, a bydd cyfrifiad 2011 yn ategu at y crebachu. Mae Cyfansoddiad Iwerddon yn datgan yn glir bod "Gwyddeleg yw iaith y Weriniaeth" ond at ba ddiben?. Mae llysoedd a gweinyddiaeth Iwerddon wedi anwybyddu hyn dros degawdau. Dim ond chwyldro meddylfryd all newid y sefyllfa yng Nghymru. Dof ydy'r unig gair addas i ddisgrifio'r 'deddfwriaeth' newydd. A dofednod y buarth Cymraeg a'u hysgrifennodd. Mae geiriau R Williams Parry am Gymru 1937 yn dod i'r cof.
" Rho awr o wallgofrwydd i'r llugoer tu ôl i'w fur,
Gwna ddaeargrynfeydd dan gadarn goncrit Philistia"

Petroc ap Seisyllt Llundain hydref 2010

http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/vaughanroderick/2010/10/gwella_pethau.html