Monday, June 8, 2009

Etholiadau Mehefin 2009



Mae'r Democratiaid Lloegr wedi ennill chwarter miliwn o bleidleisiau - rhyfedd iawn - ac yn dangos cefnogaeth am Senedd i Loegr. Yn anffoddus maen nhw'n hawlio Sir Fynwy i Loegr hynny yw; bydd can mil o Gymry Cymraeg ychwanegol yn Lloegr - a'r iaith yn swyddogol yn Lloegr - does dim modd dileu hawliau fel na yn hawdd. Gyda hawliau dan gyfraith a chwarter miliwn o siaradwyr y Gymraeg yn eu Lloegr nhw - pwy a wyr?

Mae Plaid Cymru wedi ennill canran gwell nag yn 2004 a'r Toriaid wedi dod yn gyntaf yng Nghymru. Felly clymbaid Tori/Plaid y tro nesaf i'r Cynulliad. A phymtheg o aelodau seneddol Tori i Gymru yn eistedd yn Llundain (a'i hanner yn medru'r iaith)

Yng Nghernyw mae Mebyon Kernow wedi ennill 7.7% o'r bleidlais, a thri sedd ar y cyngor newydd. Mae Cyngor Cernyw i bob pwrpas yn senedd i Gernyw - yr unig gorff etholedig i Gernyw - ac felly yn "sofran" ar faterion cernewig. Roedd mwy o bleidlais i MK nag i 'r Blaid Lafur druan.

No comments: