Monday, May 18, 2009

Yn y Gymraeg o hyn ymlaen


Nid drwy bostio yn y Saesneg a ddaw'r iaith yn fwy amlwg yn Lloegr ond drwy greu rhydwaith o ddiddordebau a grwpiau iaith Gymraeg. Edrychwch ar y flwyddyn ddiwethaf er enghraifft.

Bob bore Llun ers mis Medi dwi'n siarad ar y ffon efo un o'm myfyrwyr, Clare, am hanner awr, ac yn y Gymraeg i gyd. Dechreuodd hi ddysgu yma yn Llundain flwyddyn a hanner yn ôl, nawr mae hi'n siarad yn dda, ac y rhedeg grwp darllen i ddysgwyr unwaith yr wythnos! Mae hi'n siarad efo'i theulu ym Mangor hefyd, yn darllen nofelau (ac felly yn neud mwy na'r rhan fwyaf o'r Cymry i hybu darllen yn y Gymraeg). Am enghraifft gwych!

Mae merch arall ar fy nghwrs OU 'Croeso - L196' yn trefnu grwp ar lein unwaith y wythnos yn defnyddio meddalwedd 'cynadledda' - dechreuodd hi i ddysgu'r iaith ym mis Tachwedd 2008 ond gan fod sgiliau IT uchel iawn a sgiliau trefnu mae hi wedi symud ymlaen yn gyflym iawn! Dysgu drwy neud, drwy weithredu!

Hyn oll yn dangos fod yr iaith yn mynd o berson i berson a rhai'n llwyddo i dynnu pobl eraill i mewn. O'r myfyrwyr sy'n mynychu dosbarth lefel 4 yn Llundain mae tri wedi troi yn athrawon iaith yn ddiweddar!

Drwy gyswllt personol mae'r FCO wedi penderfynnu hyfforddi par o'u cyfiethwyr i drosi dogfennau (yn Llundain) a chyflymu'r gwasanaeth dwyiethog yn llwyr. Felly gweithredwch a llwyddwch!

No comments: