Trwyddedau Teledu ym Mryste 2011 - unwaith eto.
Bob blwyddyn dwi'n gofyn i'r bobl Trwyddedau Teledu ym Mryste am adnewyddu fy nhrwydded ar-lein yn y Gymraeg. Eleni ces i'r un ateb- dim ar gael ond mi gewch chi ddefnyddio'r rhif ffôn arbennig - un rhan amser, oriau cyfyngedig. Diwedd y mis yw fy amser i adnewyddu, a finnau yn aros i ffwrdd efo teulu yn Wrecsam, neu teulu arall ac wrth gwrs does neb yno i ateb y ffôn, penwythnosau, gwylliau banc. Bob blwyddyn maen nhw'n ofyn i mi wneud y peth yn otomatig- hynny yw yn y Saesneg - drwy debyd uniongyrchol. Yr unig ateb sy gen i ydy- na. Dwi'n gwylio S4C yn gyson, yn fwy na sianelu Saesneg, a gwrando ar radio Cymru yn fwy na sianelu Radio Saesneg ac yn darllen BBC arlein yn y Gymraeg yn fwy na'r iaith fain. Ond Corff yw'r cwmni Trwyddedau Teledu ym Mryste, ac fel bob corff yn ddiliw a difywyd. Fel dan ni'n dweud- hir pob aros wrth porth y byddar.
#BLAVING blav.co/nhud7smnk =gwrando ar fy nghwyn ar Blaving
Annwyl Mr Seisyllt, Diolch am eich ebost diweddar.
Rwy'n flin i glywed eich bod yn anhapus gyda'r safon y gwasanaeth Cymraeg ar lein. Dyma'r linc am y tudalennau Cymraeg ar ein gwefan : http://www.tvlicensing.co.uk/languages/LANG1/. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw adborth positif neu negatif oddi wrth ein cwsmeriaid.
Yn anffodus, ar hyn o bryd nid yw'n bosib prynu trwydded teledu ar-lein yn y Gymraeg ond gallwch alw'r llinell Gymraeg rhwng 8:30yb-6:30yp dydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8:30yb-1:00yp dydd Sadwrn. Mi fydd unrhyw aelod o'r adran Gymraeg yn hapus i ddelio gyda'ch ymholiad. Rhif ffôn yr Adran Gymraeg Trwyddedu Teledu yw 0300 790 6042.
Ynglyn a'r wefan Gymraeg, fel Awdurdod Trwyddedu, mae?r BBC yn ymroddgar tuag at eu dyletswyddau i ddarparu gwasanaethau addas am ddaliwr trwyddedu teledu a'r cyhoedd cyffredinol. Mae?r BBC yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.Mae?r BBC hefyd yn arolygu defnydd ein cwsmeriaid o?r wefan Trwyddedu Teledu ac mae ffigurau diweddar yn cadarnhau nad oes galw ar hyn o bryd am wasanaeth cyflawn ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg.Fel asiant i?r BBC, rydyn yn gweithio?n agos i ystyried y gwasanaethau a ddarparwn ac ein polisïau a'n gweithdrefnau yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Os ydych am gymryd y mater hwn ymhellach, ysgrifennwch at: Carl Shimeild, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Trwyddedu Teledu, Bryste, BS98 1TL
Yr eiddoch yn gywir Gavin Richards Trwyddedu Teledu
Monday, December 12, 2011
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Nes i adnewyddu eto ar y ffôn, does dim gwasanaeth araill gan TVLicensing Briste, dim ond y llinell ffôn yn y gymraeg. 'Mae cymraeg da gyda chi' meddai'r dynes - cymraes ym Mryste a atebodd.
Post a Comment